Teyrnasu fry mae Ef yn awr, Gan edrych rhwng y sêr i lawr: A gweled mae fy enaid gwan Yn teithio o'r anial fyd i'r làn. Eistedda ar ddeheulaw'r Tad, Y nef sy'n fflamio dan ei draed; Ar orsedd wen, ofnadwy'n wir, Yn nghanol y goleuni pur. Mil myrdd angelion yn ei ŵydd, Ag enaid rhydd yn moli'n rhwydd: Seraphiaid a cherubiaid lu, Yn seinio drwy'r holl nefoedd fry. Mewn gwisg i'w draed a gwregys aur, Fy Mrenin cadarn yno cair, Ger bron ei Dad yn cofio'i loes, Y goron ddrain ac angeu'r groes. - - - - - Yno y mae fy Mrenin mawr, Yn edrych rhwng y sêr i lawr; Yn awr yn gweld fy enaid gwan, Yn teithio o'r anial fyd i'r lan. Mi wela draw fy anwyl Dad, Y nef sy'n flammio tan ei draed; Ar orsedd wen ofnadwy'n wir, Ynghanol y goleuni pur. Mae myrdd o angylion yn ei wydd, Ag enaid rhŷdd yn moli'n rhwydd; Seraphiaid a Cherubiaid lu, Sy'n seinio'n fra' yn y nefoedd fry. Mewn gwisg i'w draed a gwregys aur, Fy Mhrynwr cadarn yno cair: Ger bron ei Dad yn cofio am loes, Y goron ddrain ac angau'r groes. Teyrnasu mae fy Rhosyn per, Ymhlith y saint uwchlaw y ser; Mewn cariad, hedd a gras didrai, Yn eiriol tros ei anwyl rai.William Williams 1717-91
Tonau [MH 8888]: gwelir: Rhan I - Cod f'enaid gwan yn fuan gwel Rhan III - O flaen y fainc mil miloedd mae Rhan IV - Yno mae'r apostolion mawr Rhan V - Wel dyma hwy'r gadwedig hîl |
Reigning above is He now, While looking down between the stars: And seeing he is my weak soul Travelling up from the desert land. Sitting a the right hand of the Father, Heaven is flaming under his feet; On a white throne, truly terrifying, In the midst of the pure light. A thousand myriad angels in his presence, With a free soul praising readily: A seraphic and cherubic host, Sounding throughout all the heavens above. In clothing to his feet and a belt of gold, My firm King is there to be found, Before his Father remembering his anguish, The crown of thorns and the death of the cross. - - - - - There is my great King, Looking down between the stars; Now seeing my weak soul, Travelling up from the desert world. I see yonder my beloved Father, Heaven that is flaming under his feet; On a truly terrible white throne, In the middle of the pure light. There are a myriad angels in his presence, With free souls praising extravagantly; A seraphic and cherubic host, Who are sounding pleasantly in the heavens above. In raiment to his feet and a belt of gold, My strong Redeemer is there to be found: Before his Father remembering anguish, The crown of thorns and the death of the cross. Reigning is my sweet Rose, Amongst the saints above the stars; In unebbing love, peace and grace, Interceding for his beloved ones.tr. 2018,23 Richard B Gillion |
|